Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 16 Hydref 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


235(v5)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(20 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

4       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

 

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu?

 

Gofyn i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

Alun Davies (Blaenau Gwent): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu arweinwyr gwleidyddol etholedig Catalonia?

 

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

 

David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex a cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan? (TAQ355)

</AI4>

<AI5>

5       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Defnyddio Plastigau Untro

(30 munud)

NDM7155 Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;

b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;

c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;

d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.

Cefnogwyr

Alun Davies (Blaenau Gwent)

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

David Rees (Aberafan)

Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Hefin David (Caerffili)

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Rhianon Passmore (Islwyn)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu

(60 munud)

NDM7161 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2019.

Nodyn: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2019.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Plaid Cymru - Treth Gyngor ar ail Gartrefi

(60 munud)

NDM7162 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod treth gyngor yn cael ei thalu ar ail gartrefi.

</AI8>

<AI9>

9       Cyfnod pleidleisio

</AI9>

<AI10>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7159 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Ffrind gorau ar y stryd ac oddi arni: herio'r polisi 'dim cŵn' mewn lloches a llety i'r digartref.

</AI10>

<AI11>

11    Dadl Fer - TYNNWYD YN ÔL

NDM7160 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Pwysigrwydd lles anifeiliaid i hyrwyddo delwedd Cymru.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Hydref 2019</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>